MEMORANDWM ESBONIADOL

 

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018

 

Paratowyd y Memorandwm Esboniadol hwn gan Is-adran y Gymraeg ac fe’i gosodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â’r is-ddeddfwriaeth uchod ac yn unol â Rheol Sefydlog 27.1.

 

Datganiad y Gweinidog

 

Yn fy marn i, mae’r Memorandwm Esboniadol hwn yn rhoi darlun teg a rhesymol o effaith ddisgwyliedig Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 7) 2018. 

 

 

 

 

 

Eluned Morgan AC

Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

26 Chwefror 2018

 

 

 

 


 

Disgrifiad

 

Mae Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 7) ('y Rheoliadau') yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau; safonau llunio polisi; safonau gweithredu; a safonau cadw cofnodion.

 

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud y safonau'n benodol gymwys i’r sefydliadau a'r categorïau o sefydliadau canlynol, gan alluogi Comisiynydd y Gymraeg ('y Comisiynydd') i roi Hysbysiadau Cydymffurfio i'r sefydliadau hynny mewn perthynas â'r safonau a bennwyd:

 

Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru

Cynghorau Iechyd Cymuned

Byrddau Iechyd Lleol

Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru

 

Mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn cynnwys Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Gwasanaeth Gwaed Cymru. Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cynnwys Galw Iechyd Cymru a llinell gymorth 24 awr 111 Cymru.

 

Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 4) 2016 drwy ychwanegu Gofal Cymdeithasol Cymru at Atodlen 6 y Rheoliadau.

 

Materion o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Rhifau yn y Rheoliadau

 

Mae'r Rheoliadau'n defnyddio'r wyddor Gymraeg, h.y. (a), (b), (c), (ch) ac ati.  Dim ond ar un grŵp o safonau mae hyn yn effeithio - safonau yn ymwneud â chyfarfodydd rhwng corff a mwy nag un person gwahoddedig (Safonau 22-22CH).  Mae hefyd yn effeithio ar:

 

(1)  rheoliad 1(4)

(2)  nifer fach o is-baragraffau mewn safonau unigol (gweler Safonau 81, 82, 85, 97, 106 107A, 117).

(3)  paragraffau 28, 38, 39, 41, 43, 46, 56  o Atodlen 1, paragraff 3 o Atodlen 2, paragraffau 12 a 14 o Atodlen 3 

 

Mae'r arddull hon yn wahanol i'r arddull rhifo arferol a ddefnyddir mewn is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru. Fel arfer, defnyddir y wyddor Saesneg yn y fersiwn Gymraeg a'r fersiwn Saesneg. Yn yr achos hwn, oherwydd natur a phwnc y Rheoliadau, defnyddiwyd y wyddor Gymraeg.  Defnyddiwyd yr arddull hwn yn y fersiwn Gymraeg a'r fersiwn Saesneg er mwyn sicrhau cysondeb ac osgoi unrhyw bosibilrwydd o ddryswch wrth groesgyfeirio. Defnyddiwyd yr un arddull yn Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (SI 2015/996) a Rheoliadau dilynol yn gosod safonau’r Gymraeg. 

 

Enw'r Rheoliadau

 

Teitl y Rheoliadau a osodwyd yw Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 7) 2018. Os cânt sêl bendith y Cynulliad, dyma fydd y chweched[1] set o Reoliadau Safonau'r Gymraeg i gael eu gwneud. Penderfynwyd y byddai teitl y Rheoliadau hyn yn cynnwys ‘(Rhif 7)’ gan eu bod yn dilyn ymlaen o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 6) 2017 a wnaed ym mis Ionawr 2017. Bwriedir gwneud yr holl Reoliadau a wneir o dan adran 26 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”) yn un gyfres barhaus, yn yr un modd â gorchmynion cychwyn. Y farn yw y bydd hyn yn golygu bod y Rheoliadau'n haws i'w trin ac i gyfeirio atynt, yn enwedig pan fydd Hysbysiadau Cydymffurfio'n cyfeirio at Reoliadau.

 

Cyrff yn Rheoliad 3 ac yn Atodlen 6 i’r Rheoliadau

 

Mae Atodlen 6 i'r Rheoliadau'n rhestru'r cyrff y mae'r Comisiynydd wedi cael ei hawdurdodi i roi hysbysiad cydymffurfio iddynt mewn perthynas â'r safonau a bennwyd. Mae Adran 43 o’r  Mesur yn darparu nad yw rheoliadau'n gallu gwneud safonau'n benodol gymwys i berson oni bai bod y safon yn gymwysadwy iddynt. Mae'r rhan fwyaf o'r cyrff a restrir naill ai wedi'u nodi yng ngholofn 1 y tabl yn Atodlen 6 i’r Mesur neu maent o fewn categori o bersonau a nodir yn y golofn honno, ac mae colofn 2 yn disgrifio pa safonau a allai fod yn gymwysadwy iddynt (adran 36 y Mesur). 

 

Y cefndir deddfwriaethol

 

Caiff y Rheoliadau ei gwneud drwy arfer y pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru o dan adrannau 26, 27, 39 a 150(5) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae adran 26 y Mesur yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu safonau drwy reoliadau. Mae adran 27 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu safonau gwahanol ar gyfer ymddygiadau gwahanol. Mae hefyd yn eu galluogi i bennu un safon neu nifer o safonau ar gyfer ymddygiad penodol. 

 

Cyn y gall y Comisiynydd roi hysbysiad cydymffurfio i berson yn ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â safon, rhaid i'r safon honno fod yn benodol gymwys i'r person hwnnw (adran 25). Mae adran 39 yn darparu bod safon yn benodol gymwys i berson pan fydd Gweinidogion Cymru wedi awdurdodi'r Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio i'r person hwnnw yn ymwneud â'r safon honno. Mae adran 105(5) yn darparu bod unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau yn cynnwys pŵer i wneud y cyfryw ddarpariaethau trosiannol, darfodol, canlyniadol ac arbed, darpariaethau cysylltiedig ac unrhyw ddarpariaethau eraill y mae Gweinidogion Cymru'n eu hystyried yn angenrheidiol neu'n briodol.

 

Yn unol ag Adran 150(2) o'r Mesur, rhaid i'r Rheoliadau gael eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'u cymeradwyo drwy benderfyniad ganddo (h.y. y weithdrefn gadarnhaol). 

 

Ymrwymodd y Prif Weinidog ar ddechrau'r pumed Cynulliad i ddiwygio'r Mesur. Mae'r ymrwymiad hwn yn rhan o gynllun 5 mlynedd Llywodraeth Cymru, Symud Cymru Ymlaen 2016-21. Ategodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yr ymrwymiad hwn ym mis Gorffennaf 2016, gan ychwanegu y byddai'n edrych ar y broses o wneud a gorfodi safonau, gyda'r nod o'u gwneud yn llai biwrocrataidd a thrafferthus.

 

Cafwyd galwad am dystiolaeth ar ôl hynny, ac ym mis Awst 2017, cyhoeddodd y Gweinidog ymgynghoriad Papur Gwyn yn amlinellu cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg newydd. Roedd y Papur Gwyn yn cyflwyno'r opsiwn a ffefrir gan Lywodraeth Cymru i ddiwygio system bresennol y safonau sy'n cynnwys a) dileu neu ddiwygio safonau  nad ydynt yn cyfrannu'n uniongyrchol at wella gwasanaethau, b) sy'n gostus i'w gweithredu ond  sy'n arwain at ychydig iawn o fudd i'r cyhoedd, c)  rhoi mwy o gyfle i'r cyrff ddefnyddio eu crebwyll yn rhesymol o safbwynt safonau penodol, heb danseilio egwyddor gyffredinol y safonau gorfodadwy neu d) cyhoeddi canllawiau i helpu cyrff i gydymffurfio â safonau.

 

Diben y ddeddfwriaeth a’r effaith y bwriedir iddi ei chael

 

Gwnaeth y Mesur gadarnhau statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru a chreu fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer yr iaith.

 

Cam allweddol i roi effaith i'r Mesur yw pennu safonau ac awdurdodi'r Comisiynydd i’w gwneud yn ofynnol i bersonau gydymffurfio â'r safonau hyn.

 

Mae adran 25 y Mesur yn darparu ei bod yn ofynnol i berson gydymffurfio â safon a bennir gan Weinidogion Cymru, os bodlonir amodau penodol. Mae'r amodau hynny'n cynnwys y canlynol:

 

i.              Bod safon yn benodol gymwys i'r person (h.y. mae Gweinidogion Cymru wedi awdurdodi'r Comisiynydd i roi Hysbysiad Cydymffurfio i'r person hwnnw mewn perthynas â'r safon honno)

ii.            Bod y Comisiynydd wedi rhoi Hysbysiad Cydymffurfio i'r person

iii.           Bod yr Hysbysiad Cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i'r person gydymffurfio â'r safon

iv.           Bod yr Hysbysiad Cydymffurfio mewn grym.

 

Adeiladu ar Gynlluniau Iaith a Mwy na geiriau...

 

Bydd y ddyletswydd i gydymffurfio â'r safonau yn cymryd lle'r Cynlluniau Iaith Gymraeg a ddatblygwyd o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac a oedd yn cael eu monitro gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg nes iddo gael ei ddiddymu ar 31 Mawrth 2012, a chan y Comisiynydd Iaith ers 1 Ebrill 2012. Mae pob un o'r byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, cynghorau iechyd cymuned a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru sy'n ddarostyngedig i safonau a bennwyd yn Rheoliadau (Rhif  7)  wedi bod â Chynlluniau Iaith ers nifer o flynyddoedd, ac yn gyfarwydd â chadw at ymrwymiadau ynghylch y Gymraeg sydd ynddynt.

 

Yn ogystal â Chynlluniau Iaith, mae'r byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd hefyd yn gyfarwydd iawn â'r egwyddorion sydd i'w gweld yn Mwy na geiriau...2016 - 2019, fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cyfrwng Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol. Ynddo cyflwynir egwyddor y cynnig rhagweithiol, sy'n golygu yn syml darparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano. Mae'r egwyddor hon yn rhan annatod o'r safonau drafft. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy i roi'r cynnig rhagweithiol sy'n cael ei argymell yn Mwy na geiriau... ar waith yn gyson.

 

Er y bydd y safonau'n disodli Cynlluniau Iaith, bydd Mwy na geiriau... yn parhau i ddarparu seilwaith polisi ehangach o amgylch y safonau, ac yn parhau i fod yn ddogfen bolisi bwysig i'r sector wrth symud ymlaen i roi'r safonau ar waith.

 

Cysylltiadau â Chynlluniau Tymor Canolig Integredig

 

Dan y trefniadau a osodwyd yn Fframwaith Cynllunio GIG Cymru a Deddf Cyllid GIG (Cymru) 2014, mae dyletswydd ar fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd y GIG i baratoi cynlluniau tymor canolig integredig. Dylai'r cynlluniau hynny nodi'r camau y bydd sefydliadau'n eu cymryd i gyflawni eu strategaethau hirdymor, gan ofalu bod y camau hynny'n rai mesuradwy, wedi'u diffinio'n glir a bod adnoddau priodol i'w cefnogi. Dylid rhoi sylw i'r prif feysydd fel anghenion iechyd y boblogaeth, gwella canlyniadau iechyd ac ansawdd gofal, a sicrhau'r gwerth gorau am arian. Mae gofyn i'r byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd ddangos o fewn eu cynlluniau bod gwasanaethau'n cael eu cynllunio a'u darparu yn unol â'r fframwaith strategol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru 'Mwy na geiriau...' ac ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Ymchwiliad Gofal Sylfaenol Comisiynydd y Gymraeg.

 

Fframwaith Cynllunio'r GIG 2018/21 sy'n darparu arweiniad ynghylch yr hyn y dylid ei gynnwys yn y cynlluniau tymor canolig integredig, ac mae'n cydnabod y bydd gofyn i sefydliadau gydymffurfio â safonau'r Gymraeg yn y dyfodol. Mae hyn yn awgrymu bod disgwyliad y bydd nodau cyffredin rhwng y cynlluniau tymor canolig integredig a'r Safonau. Mae'r safonau drafft yn y Rheoliadau hyn yn llawer mwy penodol na'r canllawiau ynghylch yr hyn y dylid ei gynnwys yn y cynlluniau tymor canolig integredig (y gellir eu diwygio) a'r ffordd o'u rhoi ar waith, a fydd yn cael ei reoleiddio gan y Comisiynydd gan ddarparu platfform cryfach ar gyfer adeiladu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg.

 

Rheoliadau Safonau'r Gymraeg

 

Mae dau ddiben i'r Rheoliadau.  Y cyntaf yw pennu safonau.

 

Mae safonau sy'n perthyn i'r categorïau canlynol wedi'u pennu yn y Rheoliadau:

 

·         Safonau cyflenwi gwasanaethau - bydd y rhain yn cael eu gosod mewn perthynas â hybu neu hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg, neu i sicrhau na chaiff ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg wrth ddarparu gwasanaethau.

·         Safonau llunio polisi - bydd y rhain yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau ystyried effaith eu penderfyniadau polisi ar allu pobl i ddefnyddio'r iaith ac ar yr egwyddor o beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

·         Safonau gweithredu - bydd y rhain yn delio â'r defnydd o'r Gymraeg o fewn sefydliadau.

·         Safonau cadw cofnodion- bydd y rhain yn ei gwneud yn ofynnol cadw cofnodion am rai o'r safonau eraill, ac am unrhyw gwynion a dderbynnir gan sefydliad. Bydd y cofnodion hyn yn helpu'r Comisiynydd i sicrhau bod sefydliad yn cydymffurfio â'r safonau.

 

Mae'r safonau wedi'u drafftio gyda'r nod o:

 

·         wella'r gwasanaethau Cymraeg y gall siaradwyr Cymraeg eu disgwyl gan sefydliadau

·         cynyddu defnydd pobl o wasanaethau Cymraeg

·         ei gwneud yn glir i sefydliadau'r hyn y mae angen iddynt ei wneud o ran y Gymraeg

·         sicrhau cysondeb priodol o ran y dyletswyddau a roddir ar gyrff sydd yn yr un sectorau.

 

Mae rhai safonau'n dibynnu ar ei gilydd. Felly, mae'r Rheoliadau'n cynnwys tablau (yn Rhan 2 o Atodlenni 1, 2 a 3) i ategu'r safonau cyflenwi gwasanaethau, safonau llunio polisi a’r safonau gweithredu. Mae’r tablau yn nodi pa safonau eraill y bydd angen eu gosod hefyd pan fydd safon benodol wedi'i chynnwys mewn Hysbysiad Cydymffurfio. 

 

Ail ddiben y Rheoliadau yw awdurdodi'r Comisiynydd i roi hysbysiadau cydymffurfio i’r sefydliadau a restrir uchod sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio â'r safonau a nodwyd. 

 

Ni fydd y Rheoliadau, pan fyddant yn dod i rym, yn cael effaith uniongyrchol ar sefydliadau ac ni fyddant, ar eu pennau eu hunain, yn creu hawliau i'r rheini sy'n defnyddio'r Gymraeg. Bydd hynny ond yn digwydd pan fydd yr holl amodau yn adran 25 wedi'u bodloni. Fodd bynnag, mae'r Rheoliadau yn gam hanfodol yn fframwaith y Mesur, ac yn galluogi'r Comisiynydd i'w gwneud yn ofynnol i sefydliadau gydymffurfio â'r safonau.

 

Mater i'r Comisiynydd fydd dewis pa safonau i'w gosod ar bob sefydliad drwy hysbysiad cydymffurfio. Mae'r Rheoliadau'n pennu'r ystod o safonau y gellir eu gosod ar sefydliad. Nid oes raid i'r Comisiynydd ofyn bod pob sefydliad yn cydymffurfio â phob safon. Efallai y bydd sefydliad yn gorfod cydymffurfio â safon mewn rhai amgylchiadau yn unig ac nid mewn sefyllfaoedd eraill, yn dibynnu ar yr hyn a nodir yn ei hysbysiad cydymffurfio. Bydd yr hysbysiad cydymffurfio hefyd yn nodi erbyn pryd y mae'n ofynnol i'r sefydliad gydymffurfio â safon.

 

 

Apelio

Bydd unrhyw sefydliad yn gallu herio'r gofyniad i gydymffurfio â safon benodol, ar sail p'un a yw'n rhesymol ac yn gymesur disgwyl iddynt wneud hynny.   

 

Yn y lle cyntaf, bydd sefydliad yn gallu herio'r Comisiynydd ei hun. Os yw am herio penderfyniad y Comisiynydd, gellir apelio i Dribiwnlys y Gymraeg, ac yna i'r Uchel Lys. 

 

Sancsiynau

Y Comisiynydd fydd yn gyfrifol am orfodi cydymffurfiaeth â'r Safonau hyn. Mewn achosion lle bydd y Comisiynydd yn penderfynu bod sefydliad wedi methu â chydymffurfio â safon, gall gymryd camau gorfodi. O dan y Mesur, gall camau gorfodi amrywio o lunio argymhellion neu roi cyngor i sefydliad, i orfodi cosb sifil nad yw'n fwy na £5,000. 

 

Risgiau peidio â gwneud Rheoliadau

 

Os na chaiff y Rheoliadau arfaethedig eu gwneud, bydd y risgiau canlynol yn cael eu gwireddu:

 

·         Bydd Cynlluniau Iaith Gymraeg a gyflwynwyd o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn parhau ar gyfer y sefydliadau a restrir uchod.   

·         Os bydd y Cynlluniau Iaith yn parhau, ni fydd trefn orfodi ar gael os bydd sefydliad yn methu â chydymffurfio â'i Gynllun. 

·         Ar hyn o bryd, mae Cynlluniau Iaith yn amrywio o un sefydliad i'r llall, ac mae'r ymrwymiadau mewn rhai Cynlluniau yn amhenodol. Mae hyn yn arwain at sefyllfa lle mae'r cyhoedd yn ansicr pa wasanaethau y gallant ddisgwyl eu cael yn Gymraeg. Bydd yr ansicrwydd hwn yn parhau os nad yw'r Rheoliadau'n cael eu gwneud. Er ei bod yn bosibl y bydd rhywfaint o amrywiaeth rhwng sefydliadau, mae'r safonau'n benodol eu natur ac felly byddant yn lleihau ansicrwydd y cyhoedd. 

·         Ansicrwydd ymhlith sefydliadau ynghylch eu darpariaethau Cymraeg, yn sgil y ffaith eu bod o dan yr argraff y bydd y Safonau'n disodli eu Cynlluniau. Mae nifer o sefydliadau wedi dechrau paratoi ar gyfer cyflwyno'r safonau a'r drefn fonitro a gorfodi newydd. 

·         Dim gwelliant o ran y defnydd o'r Gymraeg o fewn sefydliadau. Byddai'r defnydd o'r Gymraeg o fewn sefydliad yn parhau i ddibynnu ar ewyllys da'r sefydliad hwnnw, heb system fonitro yn ei lle.

·         Ni fydd rhan allweddol o'r Mesur yn cael ei gweithredu. 

 

Ceir rhagor o wybodaeth am risgiau a manteision gweithredu'r safonau yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol isod, ac mae'r risgiau o beidio â chyflwyno safonau wedi'u hamlinellu yn adran 'Opsiwn 1: gwneud dim' y manteision. 

 

Newidiadau polisi rhwng gwahanol setiau o Reoliadau

 

Wrth fynd ati i baratoi Rheoliadau, mae Llywodraeth Cymru yn pennu safonau sy’n addas ar gyfer grŵp penodol o sefydliadau neu sector. Mae'r polisi a ddilynir ym mhob set o Reoliadau yn dylanwadu ac yn arwain at safonau gwahanol yn cael eu paratoi ar gyfer sectorau gwahanol.

 

Mae'r Rheoliadau hefyd yn cynnwys nifer o eithriadau i'r safonau, rhai yn benodol a rhai yn gyffredinol. Mae'r safonau a'r eithriadau yn adlewyrchu'r ffaith bod rhai cyrff sy'n ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn yn gweithredu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, gan gynnig amrywiaeth o wasanaethau o driniaethau cyffredin i ddamweiniau ac achosion brys neu ofal diwedd oes. Rydym yn ystyried y byddai'n afresymol neu anghymesur disgwyl i gorff gydymffurfio â'r safonau hyn heb yr eithriadau.

 

Ymgynghori

 

Rhwng mis Tachwedd 2014 a mis Chwefror 2015, cynhaliodd Comisiynydd y Gymraeg ymchwiliad gyda'r sefydliadau a fydd yn gorfod cydymffurfio â'r safonau a bennwyd yn y Rheoliadau. Gwnaeth Gweinidogion Cymru ystyried yn llawn yr argymhellion a gyflwynodd y Comisiynydd yn yr adroddiadau ar y safonau. Gellir gweld yr adroddiadau hyn ar wefan y Comisiynydd.

 

Ymysg yr argymhellion i sefydliadau sector iechyd yn adroddiad Ymchwiliad Safonau'r Comisiynydd roedd galwad am eglurder ynghylch a fyddai gwasanaethau gofal sylfaenol yn dod o dan y safonau. Gan nad oedd darparwyr gofal sylfaenol wedi'u cynnwys yn ymchwiliad y Comisiynydd, cynhaliodd Gweinidogion Cymru ymarfer cwmpasu i edrych yn fanylach ar y mater hwn.

 

Defnyddiodd y Comisiynydd fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 fel sail i'w Hymchwiliad Safonau i sefydliadau sector iechyd. Yn sgil y ffaith bod Rheoliadau (Rhif 7) drafft wedi'u paratoi'n benodol ar gyfer sefydliadau'r sector iechyd, cynhaliodd Gweinidogion Cymru ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y Rheoliadau drafft rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2016. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys galwad ar sefydliadau i gyflwyno data diwygiedig er mwyn caniatáu i Weinidogion Cymru baratoi Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

 

Ceir rhagor o fanylion ynghylch y costau a'r manteision yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn rhan 2 isod.

 

Er i rai groesawu lefel y manylder sy'n cael ei gynnig gan y safonau, roedd yr ymgynghoriad yn dangos yn glir bod canfyddiad bod y Rheoliadau'n gymhleth ac yn anodd eu deall oherwydd nifer y safonau. Roedd rhai sefydliadau'n teimlo y byddai hyn yn ei gwneud yn anodd i'w staff ddeall yr hyn oedd yn ddisgwyliedig ohonynt mewn perthynas â darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg.

 

Roedd yr ymatebion yn amrywio, gyda rhai yn teimlo nad oedd y Rheoliadau'n mynd yn ddigon pell i sicrhau a diogelu hawliau siaradwyr Cymraeg, yn arbennig mewn perthynas â gofal sylfaenol. Roedd eraill yn ei gweld yn anodd cyfiawnhau costau tebygol y buddsoddiad gofynnol i gydymffurfio â'r safonau. Nodwyd costau recriwtio, hyfforddiant Cymraeg a chyfieithu, ymysg eraill.

 

Gan roi o'r neilltu'r gwahaniaethau barn ar agweddau penodol o'r Rheoliadau iechyd drafft, y consensws cyffredinol oedd y byddai darparu gwasanaeth Cymraeg o fewn y sector iechyd yn cael effaith gadarnhaol ar gleifion a staff. Roedd byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn cydnabod pwysigrwydd medru darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i gleifion ac yn yr un modd, roedd aelodau o'r cyhoedd yn nodi pwysigrwydd medru derbyn gofal iechyd yn yr iaith o'u dewis. 

 

Roedd y prif bryderon a godwyd yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn ymwneud â'r cynnig i ddarparu cymorth cyfrwng Cymraeg yn ystod ymgyngoriadau clinigol, a phrinder safonau ar ddarparwyr gofal sylfaenol. Fe gafodd y safonau drafft eu diwygio mewn ymateb i'r sylwadau a ddaeth i law, fel y gwelir isod.

 

Ymgyngoriadau clinigol

Rydym yn cynnig disodli'r gofyniad i ddarparu cymorth cyfrwng Cymraeg yn ystod ymgyngoriadau clinigol gyda safonau a fydd yn gwneud y canlynol;

 

·         Adeiladu ar enghreifftiau o arfer da a ddatblygwyd gan nifer o fyrddau iechyd i adnabod dewis iaith cleifion mewnol, er mwyn i'r corff fedru ceisio cyflawni anghenion ieithyddol y claf. Nod y safon fyddai sicrhau bod dewis iaith y claf yn weladwy i'r staff, gan gynyddu'r cyfleoedd i gleifion a staff (Cymraeg eu hiaith) ryngweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, a rhoi'r cynnig rhagweithiol ar waith.  

 

·         Ei gwneud yn ofynnol i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd gynhyrchu a chyhoeddi cynllun gwella gyda cherrig milltir yn nodi sut y byddant yn gweithio tuag at roi'r cynnig rhagweithiol ar waith yn ystod ymgyngoriadau clinigol; hynny yw darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg heb i rywun orfod gofyn.

Bydd gofyn i sefydliadau asesu i ba raddau y maent wedi cydymffurfio â'u cynllun.

Bydd y safonau newydd hyn, ynghyd â safonau sy'n gosod dyletswydd ar sefydliadau i gofnodi dewis iaith unigolion o ran gohebiaeth; galwadau ffôn a hefyd dyletswyddau cynllunio'r gweithlu yn cynyddu dealltwriaeth sefydliadau o'r galw am wasanaethau Cymraeg ac yn gwella eu gallu i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.

Gofal Sylfaenol

Yn gyffredinol, roedd cefnogaeth i safonau 83-97 yn fersiwn yr ymgynghoriad o'r Rheoliadau, sy'n gosod dyletswyddau ar fyrddau iechyd mewn perthynas â gofal sylfaenol ac sydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ddarparu rhai gwasanaethau cyfrwng Cymraeg (arwyddion, dogfennau ac ati) i ddarparwyr gofal sylfaenol; meddygon teulu, deintyddion, fferyllwyr ac optegwyr sy'n darparu gwasanaethau gofal sylfaenol ar ran bwrdd iechyd lleol. Fodd bynnag, roedd nifer yn teimlo nad oeddent yn mynd yn ddigon pell. Er mwyn darparu gwasanaeth cyfrwng Cymraeg parhaus rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd, eu barn oedd y dylai darparwyr gofal sylfaenol fod yn ddarostyngedig i fwy o safonau cyflenwi gwasanaethau tebyg i'r rhai sy'n cael eu cynnig i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd. Seiliwyd hyn ar y ffaith bod y mwyafrif yn dod i gysylltiad gyda'r GIG yng Nghymru am y tro cyntaf drwy ddarparwyr gofal sylfaenol.

 

Ar ôl ystyried y sylwadau a ddaeth i law, mae'r Rheoliadau drafft wedi'u diwygio er mwyn i wasanaethau gofal sylfaenol sy'n cael eu darparu'n uniongyrchol gan fyrddau iechyd fod yn ddarostyngedig i'r un safonau â gwasanaethau eraill sy'n cael eu darparu gan y bwrdd iechyd, yn ddarostyngedig i hysbysiad cydymffurfio gan y Comisiynydd. Mae hynny'n golygu bod rhai o'r safonau drafft yn fersiwn yr ymgynghoriad o'r Rheoliadau wedi'u dileu gan nad yw bellach yn angenrheidiol drafftio safonau penodol ar gyfer dogfennau, gwefannau, apiau a chyfryngau cymdeithasol mewn perthynas â gofal sylfaenol gan y bydd safonau cyflenwi gwasanaethau eraill yn berthnasol.

Mae rhai safonau penodol ar gyfer gofal sylfaenol wedi'u cadw; yn y Rheoliadau hyn, dyma safonau 65 - 68.

 

Nid ydym o'r farn y byddai'n rhesymol gosod dyletswyddau ar fyrddau iechyd lleol a fyddai'n eu dal yn gyfrifol am fethiant ar ran un o'r darparwyr gofal sylfaenol annibynnol i gydymffurfio â'r safonau. Mae hynny gan nad oes ganddynt unrhyw ddylanwad uniongyrchol dros y ffyrdd y mae darparwyr unigol yn darparu gwasanaethau (Rheoliad 1(9)).

Felly cynigir y bydd nifer fach o ddyletswyddau sy'n ymwneud â'r Gymraeg yn cael eu gosod ar ddarparwyr gofal sylfaenol annibynnol drwy gontractau gofal sylfaenol neu gytundeb telerau gwasanaeth rhwng darparwr gofal sylfaenol a bwrdd iechyd lleol. Bydd hyn yn creu rhwymedigaethau contractiol rhwng byrddau iechyd lleol a'r darparwyr annibynnol y gall y bwrdd iechyd lleol eu gorfodi.

Mae'r dull gweithredu hwn yn cydnabod nad oedd gan y darparwyr hyn gynlluniau iaith blaenorol, ac nad ydynt wedi gweithredu dan unrhyw ddyletswyddau yn ymwneud â'r Gymraeg, er bod arfer da mewn rhai ardaloedd. Bydd yn sicrhau ymwybyddiaeth a gwella gwasanaethau cyfrwng Cymraeg mewn ffordd gyson o fewn y sector annibynnol.



Symleiddio

Yn dilyn cyhoeddiad gan y cyn Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ym mis Gorffennaf 2016, fe gafodd y safonau eu hadolygu i adnabod cyfleoedd i symleiddio a lleihau'r baich biwrocrataidd ar y cyrff. Gwnaed y newidiadau mwyaf sylweddol yn Atodlen 4 (Safonau Cadw Cofnodion) ac Atodlen 5 (Safonau sy'n ymdrin â Materion Atodol).

 

Yn Atodlen 4, yr unig safonau sydd wedi'u cadw yw'r rhai sy'n ei gwneud yn ofynnol i gorff gadw cofnod o'r cwynion sy'n dod i law mewn perthynas â chydymffurfiaeth â'r Safonau, sgiliau Cymraeg eu staff a'r sgiliau Cymraeg sy'n ofynnol ar gyfer swyddi newydd a swyddi gwag. Fe gafodd y rhain eu cadw oherwydd pwysigrwydd cynllunio'r gweithlu i gyflawni'r safonau, ac mae nifer y cwynion yn ddangosydd gwerthfawr o ganfyddiad y cyhoedd o ansawdd gwasanaeth Cymraeg sy'n cael ei ddarparu gan gorff.

 

Mae safonau o fewn Atodlen 5 wedi'u huno er mwyn dileu ailadrodd safonau tebyg ym mhob un o'r atodlenni blaenorol.

 

Enghraifft arall o'r newidiadau a wnaed yw'r diwygiadau i safonau yn ymwneud â chynhyrchu a chyhoeddi dogfennau. Mae'r safonau yn ymwneud â mathau penodol o ddogfennau wedi'u dileu. Mae’r safon sy'n ei gwneud yn ofynnol i gorff seilio penderfyniad ynghylch a ddylid cynhyrchu dogfen yn Gymraeg neu beidio ar asesiad o'r testun dan sylw a'r gynulleidfa ddisgwyliedig wedi’i gadw. Os mai casgliad yr asesiad yw bod y testun dan sylw neu'r gynulleidfa ddisgwyliedig yn awgrymu y dylai'r ddogfen gael ei chynhyrchu'n Gymraeg, bydd disgwyl i'r corff gyhoeddi fersiwn Gymraeg.

 

Ar sawl achlysur, mae safonau cyflenwi gwasanaethau a safonau gweithredu wedi'u huno. Er enghraifft, mae safonau cyflenwi gwasanaethau yn ymwneud â chyfarfodydd wedi'u huno mewn un safon sy'n rhoi'r gallu i gorff benderfynu a fydd y cyfarfod yn Gymraeg, ac os na, pa fath o wasanaeth cyfieithu i'w ddefnyddio. Mae nifer o safonau gweithredol sy'n gosod dyletswydd ar gorff i ddarparu gwahanol fathau o ddogfennau a pholisïau i staff yn Gymraeg wedi'u huno. Nid yw'r newidiadau hyn wedi newid y gofynion ar y cyrff.

 

Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 4) 2016 drwy ychwanegu Gofal Cymdeithasol Cymru at Atodlen 6 y Rheoliadau.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

RHAN 2 – ASESIAD EFFAITH RHEOLEIDDIOL

Cefndir

 

1.    Roedd y sefydliadau a enwir yn Atodlen 6 i'r Rheoliadau hyn wedi'u cynnwys yn ail ymchwiliad Comisiynydd y Gymraeg ('y Comisiynydd'), ynghyd â 98 sefydliad arall o sectorau gan gynnwys addysg, yr heddlu a'r gwasanaethau achub. Cynhaliwyd ymchwiliad y Comisiynydd rhwng 7 Tachwedd 2014 a 9 Chwefror 2015, ac roedd wedi'i seilio ar y Rheoliadau drafft a baratowyd ar gyfer Gweinidogion Cymru, Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol.

 

2.    Gofynnwyd i'r sefydliadau gymryd rhan mewn Asesiad Effaith Rheoleiddiol Llywodraeth Cymru, a ddosbarthwyd gyda dogfennau Ymchwiliad Safonau'r Comisiynydd. Gofynnwyd i'r sefydliadau gyflwyno'u hymatebion yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru. Roedd rhai sefydliadau'n gyndyn i seilio'u hymatebion Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar y Rheoliadau drafft oherwydd bod posibilrwydd iddynt newid, neu yn sgil y ffaith nad oeddent wedi cael eu paratoi'n benodol ar gyfer sefydliadau'r sector iechyd. Er hynny, cyflwynodd 12 o'r 18 sefydliad sy'n cael eu henwi yn Atodlen 6 i'r Rheoliadau hyn ymateb Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

 

3.    Ym mis Mai a dechrau mis Mehefin 2015, cyflwynodd y Comisiynydd ei hymateb swyddogol i'r Ymchwiliad Safonau i Lywodraeth Cymru ar ffurf 9 adroddiad o dan adran 64 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ('y Mesur'). Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus i (i) Adroddiadau Safonau'r Comisiynydd wrth benderfynu a ddylid arfer y pwerau yn Rhan 4 o'r Mesur (sy'n cynnwys y pŵer i bennu safonau), a sut i wneud hynny; a (ii) i unrhyw gyngor a roddir gan y Comisiynydd yn ysgrifenedig.

 

4.    Er i'r Rheoliadau ar gyfer y rhan fwyaf o'r sefydliadau a gafodd eu cynnwys yn ail Ymchwiliad Safonau'r Comisiynydd gael eu gwneud yn ystod 2016 ac yn gynnar yn 2017[2], penderfynwyd cynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y Rheoliadau drafft ar gyfer sefydliadau'r sector iechyd. Arweiniodd hyn hefyd at gais o'r newydd i'r sefydliadau hynny a fyddai'n dod o dan y Rheoliadau hyn ddarparu Asesiad Effaith Rheoleiddiol diwygiedig. O'r 18 sefydliad iechyd, cyflwynodd 12 Asesiad Effaith Rheoleiddiol diwygiedig.

 

5.    Mae'r dadansoddiad canlynol o'r costau a'r manteision sy'n gysylltiedig â'r Safonau wedi'u seilio ar y data a ddarparwyd gan yr 11 sefydliad hwnnw.

 

Crynodeb o’r ymatebion

 

6.  Darparodd 12 o'r 18 sefydliad (61%) a fydd yn ddarostyngedig i Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 7) 2018 wybodaeth am gost ei Gynllun Iaith Gymraeg presennol, ynghyd ag amcangyfrif o'r gost o gydymffurfio â safonau'r Gymraeg. Y sefydliadau hynny oedd:

 

·         Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

·         Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

·         Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

·         Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

·         Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

·         Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

·         Ymddiriedolaeth GIG Felindre (gan gynnwys Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg y GIG).  

·         Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

·         Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr 

·         Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru

·         Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

·         Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Cywirdeb a Defnyddioldeb y Data

 

7.    Mae gennym bryderon am y data a gafwyd gan y sefydliadau ac a yw'n addas ar gyfer llunio Asesiad Effaith Rheoleiddiol cadarn a chywir

 

8.    I'w gwneud yn bosibl cynnal asesiad o gost ychwanegol cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, byddai’n rhaid i sefydliad ddarparu ffigwr o’r gost o gydymffurfio gyda’i Gynllun Iaith Gymraeg presennol, ac amcangyfrif o gost cydymffurfio â Safonau.  Roedd pob Asesiad Effaith Rheoleiddiol a gyflwynwyd ac eithrio un yn darparu data defnyddiol mewn perthynas â chostau cyflawni eu Cynllun Iaith Gymraeg presennol. Roedd darparu amcangyfrifon ar gyfer cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg yn fwy heriol. Nododd sawl Asesiad Effaith Rheoleiddiol eu bod yn disgwyl gweld cynnydd mewn costau cyfieithu a/neu TGCh, ond methwyd â rhoi swm ar gyfer y costau hynny.

 

9.    Hyd yn oed lle darparwyd amcangyfrif o’r gost, pwysleisiodd nifer o sefydliadau ei bod yn anodd iddynt ddarparu data cywir heb wybod pa rai o'r safonau drafft y byddai disgwyl iddynt gydymffurfio â nhw. O ganlyniad, mae rhai sefydliadau wedi darparu amcangyfrifon o'r costau ar gyfer cydymffurfio â phob un o'r safonau.

 

10. Nid yw'r Comisiynydd erioed wedi gosod pob un o'r safonau ar unrhyw sefydliad unigol, ac mae'n annhebygol tu hwnt y bydd hyn yn digwydd o gwbl. Nid yw'r Comisiynydd wedi cyflwyno hysbysiad cydymffurfio i unrhyw un o'r 107 sefydliad sy'n cydymffurfio â safonau'r Gymraeg ar hyn o bryd yn gofyn iddynt gydymffurfio â'r gyfres gyfan o safonau. 

 

11. Hefyd mae sefydliadau wedi camddeall y gofynion yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol neu wedi dehongli'r cwestiynau mewn ffyrdd gwahanol. Wrth ofyn iddynt gynnwys amcangyfrif o'r gost ychwanegol o gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg (heb gynnwys, felly, y gwariant presennol ar ddarparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg), fe wnaeth rhai sefydliadau'r camgymeriad o gynnwys costau'r staff sy'n cael eu cyflogi ar hyn o bryd i ddarparu gwasanaethau, yn unol â'u cynllun iaith presennol, fel cost ychwanegol. Hefyd roedd rhai enghreifftiau o'r un costau staffio yn cael eu cynnwys dan bob categori unigol o safonau. Mae hynny wedi chwyddo'r amcangyfrifon a ddarparwyd gan rai sefydliadau. Lle gwelwyd enghreifftiau o'r fath, rhoddwyd cyfle i'r sefydliadau adolygu eu Hasesiad Effaith Rheoleiddiol at ddibenion sicrwydd ansawdd. Arweiniodd hyn at ostyngiad o tua £500,000 yng nghyfanswm yr amcangyfrifon o gostau staff ar gyfer cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg. 

 

12. Mae nifer o sefydliadau wedi darparu amcangyfrifon o gostau cydymffurfio sy'n sylweddol uwch na sefydliadau eraill tebyg.

 

13. Lle darparwyd amcangyfrifon o gostau dim ond yn erbyn safonau sydd bellach wedi'u dileu o'r Rheoliadau drafft, mae'r amcangyfrifon hynny wedi'u tynnu o gyfanswm y costau a ddarparwyd gan y sefydliad hwnnw yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Gwnaed hyn gyda chymeradwyaeth y sefydliadau. Er enghraifft, mae'r Safonau sy'n ymwneud â dyfarnu contractau wedi cael eu diwygio. Roedd un sefydliad yn amcangyfrif cost flynyddol o £200,000 ar gyfer cyfieithu pob gwahoddiad i dendro i'r Gymraeg. Diwygiwyd y Rheoliadau, gan ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi gwahoddiadau i dendro a phecynnau perthnasol yn Gymraeg dim ond os yw testun y contract yn awgrymu y dylid ei gyhoeddi yn Gymraeg. Gallai'r diwygiad hwn ostwng y costau cyfieithu yn sylweddol.

 

14. Gyda hyn mewn cof, mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn canolbwyntio ar yr effaith economaidd, cymdeithasol ac ieithyddol ar sefydliadau a hefyd yn cwmpasu'r effaith ariannol cyn belled â phosibl. Os caiff y Rheoliadau sêl bendith y Cynulliad, caiff gwybodaeth bellach ei chasglu gan sefydliadau pan fydd y Comisiynydd yn rhoi Hysbysiadau Cydymffurfio a'r sefydliadau mewn sefyllfa i ddarparu costau mwy cywir. Wedyn, bydd modd cynnal asesiad llawn o'r effaith ariannol.        

 

Yr Opsiynau

 

15. Mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol hwn yn ystyried dau opsiwn:

 

·         Opsiwn 1: Gwneud dim - Byddai'r sefydliadau yn parhau i weithredu eu Cynlluniau Iaith Gymraeg presennol o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

·         Opsiwn 2. Cyflwyno Safonau'r Gymraeg ar gyfer y categorïau o sefydliadau a'r sefydliadau sy'n cael eu rhestru yn y Rheoliadau.

 

16. Mae'r dadansoddiad canlynol yn ystyried y costau a'r manteision sy'n gysylltiedig â'r opsiynau hyn yn eu tro.

 

Costau a manteision

 

Costau

 

Opsiwn 1: Gwneud dim:

 

17. Nid oes unrhyw gostau ychwanegol o dan yr opsiwn hwn.  Ni fyddai angen i'r sefydliadau hyn gydymffurfio â Safonau newydd ond byddai disgwyl iddynt barhau i gyflawni eu Cynlluniau Iaith presennol. 

 

18. Mae Tabl 1 yn crynhoi'r wybodaeth a gafwyd gan y sefydliadau ynghylch cost cydymffurfio â'r Cynlluniau Iaith presennol. Mae'r ystod o gostau fwy na thebyg yn adlewyrchu'r gwahaniaeth ym maint a chwmpas y sefydliadau dan sylw, sy'n amrywio o Gynghorau Iechyd Cymuned i Fyrddau Iechyd Lleol mawr, ynghyd â gwahanol ffyrdd o ddehongli'r cwestiynau yn yr holiadur.

 

Tabl 1 - Yr ystod o gostau ar gyfer gweithredu'r Cynlluniau Iaith presennol

 

 

Ymatebion

Lleiafswm (£)

Uchafswm (£)

Staff â rôl yn gweithredu Safonau'r Gymraeg

11

15,000

131,086

Hyfforddiant (staff)

11

0

33,841

Cyfieithu (mewnol ac allanol)

11

0

210,000

Cyfanswm costau i weithredu Safonau'r Gymraeg

11

43,000

281,242

 

Opsiwn 2: Cyflwyno Safonau'r Gymraeg ar gyfer sefydliadau sydd wedi'u rhestru yn y Rheoliadau.

 

19. Er na phenderfynwyd eto pa safonau fydd yn berthnasol i bob sefydliad, mae'n debygol y bydd y sefydliadau'n ysgwyddo costau untro a chostau rheolaidd ychwanegol er mwyn cydymffurfio â'r safonau.

 

20. Y prif gostau rheolaidd fydd costau staffio, yn enwedig ar gyfer staff ag arbenigedd ym meysydd cyfieithu, AD a TGCh. Gellid priodoli hyn yn rhannol i gyflwyno safonau gweithredol, sy'n canolbwyntio ar ddefnydd mewnol o'r Gymraeg o fewn y sefydliad. Nid oedd ymrwymiadau tebyg yn rhan o'r Cynlluniau Iaith blaenorol felly disgwylir costau cychwynnol ar gyfer cydymffurfio â'r Safonau newydd hyn. Mae'n debygol y bydd angen i'r sefydliadau ehangu eu cyfleusterau cyfieithu, naill ai drwy recriwtio mwy o gyfieithwyr mewnol[3] neu drwy anfon gwaith cyfieithu allan i ddarparwyr allanol. 

 

21. Hefyd, mae diweddaru meddalwedd TGCh yn cael ei weld gan rai fel buddsoddiad sylweddol gofynnol.

 

22. Fel nodir uchod, cysylltwyd â'r sefydliadau dan sylw a gofynnwyd iddynt ddarparu data ynghylch costau ar gyfer yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol hwn. Mae'n pryderon ynghylch y data a gasglwyd wedi'u hamlinellu uchod. 

 

23. I ddangos yr amrywiaeth yn yr ymatebion, mae lleiafswm ac uchafswm y costau ychwanegol a nodwyd ar gyfer y sefydliadau hyn wedi'u nodi yn y tabl isod. Er bod yr amcangyfrif o'r uchafswm yn allanolyn (mae tua £500,000 yn uwch na'r amcangyfrif nesaf ato), roedd sefydliadau eraill yn nodi cynnydd mawr mewn costau cydymffurfio. 

 

 

24. Tabl 2 - Yr ystod o gostau ychwanegol a nodwyd gan sefydliadau (£)

 

 

Ymatebion

Lleiafswm (£)

Uchafswm (£)

Staff â rôl yn gweithredu Safonau'r Gymraeg

11

31,383

470,530

Hyfforddiant (staff)

 

11

0

135,069  

Cyfieithu (mewnol ac allanol)

11

4,872

774,000

TGCh

 

 

0

1,000,000

Costau ychwanegol i weithredu'r Safonau

11

32,259

2,070,041

 

25. Fel y nodwyd, mae'r sefydliadau dan sylw wedi dehongli cwestiynau'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol a mynd at y dasg mewn ffyrdd gwahanol. Gellid priodoli'r anghysondeb rhwng amcangyfrifon costau staff ar gyfer gweithredu safonau'r Gymraeg yn rhannol i faint a chylch gwaith y sefydliadau. Yn ôl y disgwyl, mae'r amcangyfrifon a ddarparwyd gan y byrddau iechyd mwy yn gogwyddo tuag at yr uchafswm disgwyliedig ar gyfer staff angenrheidiol i gydymffurfio â safonau'r Gymraeg. 

   

26. Pe bai'r Cynlluniau Iaith wedi cael eu rhoi ar waith yn llawn yn ôl y bwriad, byddai llai o angen am fuddsoddiad ychwanegol i ddarparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg.  Nod Safonau'r Gymraeg yw adeiladu ar yr ymrwymiadau a wnaed eisoes mewn Cynlluniau Iaith. Ar wahân i safonau gweithredol, ni ddylai'r rhan fwyaf o'r Safonau fod yn gwbl ddieithr i'r sefydliadau sy'n cael eu henwi yn y Rheoliadau drafft hyn. Gan gofio hyn, mae rhywfaint o'r wybodaeth a ddarparwyd mewn perthynas ag amcangyfrifon o'r costau ychwanegol wrth gydymffurfio â safonau'r Gymraeg o gymharu â'r Cynlluniau Iaith yn cael ei hystyried yn annibynadwy.

 

27. Roedd y costau ychwanegol a amcangyfrifwyd ar gyfer cydymffurfio â safonau cyflenwi gwasanaethau ar y cyfan ymysg yr uchaf o'r pedwar categori o safonau (cyflenwi gwasanaethau; llunio polisi; gweithredu; cadw cofnodion). Er enghraifft, roedd tri sefydliad yn amcangyfrif dros £1 miliwn o gostau ychwanegol i gydymffurfio â'r categori hwn o'r safonau yn unig. Mae hynny er gwaetha'r ffaith mai'r safonau cyflenwi gwasanaethau yw'r categori o safonau sydd debycaf i'r ymrwymiadau yn y Cynlluniau Iaith. Fe fyddem wedi disgwyl gweld yr amcangyfrifon costau uchaf yn codi o'r safonau gweithredol gan mai dyna'r categori sydd fwyaf gwahanol i'r Cynlluniau Iaith presennol. Mae hyn, fodd bynnag, yn tynnu sylw at yr her sy'n wynebu'r sefydliadau a enwir yn y Rheoliadau hyn i ddarparu gwasanaeth cyson drwy gyfrwng y Gymraeg.  

 

28. Roedd pob un o'r 12 sefydliad a ddarparodd wybodaeth yn rhagweld y byddai angen buddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau cyfieithu er mwyn cydymffurfio â safonau. O'r 12 Asesiad Effaith Rheoleiddiol a gyflwynwyd, roedd 4 sefydliad yn amcangyfrif y byddai angen dros £200,000 i ymestyn eu cyfleusterau cyfieithu, gyda'r amcangyfrif uchaf yn £774,000 (er bod hyn yn allanolyn). Mae'n werth nodi, fodd bynnag, bod yr amcangyfrifon o'r costau uchaf hyn yn debyg o fod wedi'u seilio ar y gyfres lawn o Safonau yn hytrach na dewis ohonynt.

 

29. Mae'r gofyniad i gydymffurfio â safonau yn debygol o arwain at gostau untro a rheolaidd ar gyfer hyfforddiant. Disgwylir i'r costau hyfforddi untro fod yn gysylltiedig â gweinyddu mewnol a hyfforddiant ar weithredu'r safonau, a bydd y costau hyfforddi rheolaidd yn canolbwyntio mwy ar yr angen posibl i ddarparu mwy o hyfforddiant statudol i staff yn Gymraeg ynghyd â hyfforddiant i staff wella eu sgiliau Cymraeg. 

 

30. Roedd nifer o'r ymatebwyr yn dyfynnu costau o nifer o gannoedd o filoedd, dros £1 miliwn mewn un achos, i gydymffurfio â'r gofynion a amlinellwyd yn y safonau yn ymwneud â gwefannau; gwasanaethau ar-lein a'r rhyngrwyd. Mae'r costau'n cyfeirio at yr angen i addasu neu brynu systemau, meddalwedd a chyfarpar newydd, yn ogystal â'r angen i recriwtio staff arbenigol. Mae'n werth nodi, fodd bynnag, er bod y sefydliadau eisoes yn darparu a chynnal gwefan ddwyieithog i raddau amrywiol, na fu gofyn iddynt yn y gorffennol ymestyn y gwasanaeth hwn i'r fewnrwyd. Gall y dyletswyddau hyn dan y safonau gweithredol arwain at gostau ychwanegol. Nid oes amheuaeth y gallai cydymffurfio â'r Safonau hyn fod yn heriol. Mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn gweithredu systemau TGCh gwahanol ac yn dod o dan strwythurau sefydliadol gwahanol, hyd yn oed o fewn yr un sefydliad.

 

31. Yn sgil y pryderon uchod, ystyrir bod y data'n anghyflawn ac o bosib yn anghyson. Mae sefydliadau wedi dehongli cwestiynau'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn ffyrdd gwahanol gan wneud y broses o farnu cywirdeb y costau a nodwyd yn fwy heriol.

 

32. Yn dilyn trafodaethau gydag Economegwyr ac Ystadegwyr y Llywodraeth, cytunwyd nad yw'r data a gasglwyd yn ddigon cadarn i'w defnyddio mewn Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Gan gofio'r amrywiadau yn y data a gyflwynwyd a'r ansicrwydd presennol ynghylch pa Safonau fydd yn berthnasol i bob grŵp, ystyrir bod cyfartaledd y costau hyd yn oed yn annhebygol o fod yn adlewyrchiad cywir o gostau cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg. Felly dylid ystyried ffigurau Tabl 2 fel ffigurau dangosol yn unig o'r pwyntiau uchaf ac isaf yn yr ystod o gostau ychwanegol posib sy'n wynebu'r sefydliadau.  

 

33. Ystyriwyd cynnal cylch casglu data arall wrth baratoi Asesiadau Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Rheoliadau blaenorol, ond penderfynwyd bod y canlyniad yn debygol o fod yn debyg ac na fyddai modd casglu'r data angenrheidiol i lunio asesiad cadarn o'r goblygiadau o ran cost nes bod gwybodaeth bellach ar gael ar ba Safonau fydd yn berthnasol i bob sefydliad. Mae'r un peth yn wir am sefydliadau sector iechyd. Er mwyn i gorff fedru roi amcangyfrif cywir o gostau gweithredu'r safonau, byddai'n rhaid iddo'n gyntaf dderbyn hysbysiad cydymffurfio gan y Comisiynydd yn ei hysbysu pa safonau y mae'n rhaid cydymffurfio â nhw. 

 

34. Yn ogystal â'r costau cydymffurfio a ysgwyddir gan y sefydliadau, mae Comisiynydd y Gymraeg a Thribiwnlys y Gymraeg hefyd yn debygol o ysgwyddo costau ar gyfer monitro a gorfodi cydymffurfiaeth â'r Safonau. Mae proses apelio wedi'i sefydlu sy'n golygu bod sefydliad sy'n credu bod y Safonau a orfodwyd arno yn afresymol neu'n anghymesur yn gallu apelio i'r Comisiynydd yn y lle cyntaf, ac wedi hynny i Dribiwnlys y Gymraeg. Yn ystod 2016-17, fe gafodd y Tribiwnlys 9 cais gan sefydliadau oedd yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniadau a wnaed gan Gomisiynydd y Gymraeg yn ei hysbysiad cydymffurfio. Cost gwrandawiad mewn Tribiwnlys yw rhwng £2,500 a £3,000. O'r 9 cais a gyflwynwyd i'r Tribiwnlys yn 2016-17, dim ond un symudodd ymlaen i gael penderfyniad gan y panel a gwnaed hynny heb wrandawiad ffurfiol.

 

35. Yn ogystal â'r costau uchod, byddai angen i'r sefydliadau a'r Comisiynydd neilltuo adnoddau pe byddent yn rhan o achos a gyfeiriwyd at y Tribiwnlys. Pe bai sefydliad yn apelio i'r Tribiwnlys, byddai'n rhaid iddo neilltuo adnoddau i'r broses honno. Mae hyn yn debyg o gynnwys adnoddau staff y sefydliad sy'n gweithio ym maes cydymffurfiaeth y safonau, yn ogystal ag arbenigedd cyfreithiol. 

 

Manteision

 

Opsiwn 1: Gwneud dim:

 

36. Dyma’r opsiwn sylfaenol ac nid oes manteision ychwanegol yn gysylltiedig â’r opsiwn hwn.

 

37. Byddai gwneud dim yn golygu bod y Cynlluniau Iaith presennol, sydd wedi bod yn eu lle ers 1993, yn parhau fel ag y maent. Byddai swyddogaeth reoleiddio’r Comisiynydd yn parhau’n debyg i swyddogaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Byddai’r gweithdrefnau ar gyfer cytuno ar gynlluniau a’u diwygio, sy’n llyncu llawer o adnoddau, hefyd yn parhau, ynghyd â’r drefn orfodi gyfyngedig bresennol.

 

Opsiwn 2: Cyflwyno Safonau'r Gymraeg ar gyfer y 18 sefydliad a restrir uchod

 

38. Diben y safonau yw gwella lefel y gwasanaeth y gall aelodau'r cyhoedd ddisgwyl ei derbyn. Yn y cam hwn (a nes bod Comisiynydd y Gymraeg wedi rhoi'r hysbysiadau cydymffurfio), mae ond yn bosibl amlinellu'r manteision cyffredinol a ddisgwylir. 

 

39. Bydd y Safonau'n nodi'n glir beth y mae angen i'r sefydliadau ei wneud o ran y Gymraeg, fel bod pobl yn gwybod beth i'w ddisgwyl o ran gwasanaethau Cymraeg.  Bydd yr eglurder hwn, ar gyfer y cyhoedd a'r sefydliadau, yn helpu i sicrhau bod y safonau'n gallu cael eu gorfodi'n effeithiol ac yn arwain at gynnydd yn y defnydd o wasanaethau Cymraeg.

 

40. Mae'r byrddau iechyd, ymddiriedolaethau, cynghorau iechyd cymuned a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru eisoes yn gweithredu Cynlluniau Iaith ac eisoes yn gwneud nifer o'r pethau  a nodwyd yn y safonau. Mae'r Safonau'n adeiladu ar y Cynlluniau ac yn rhoi gofynion mwy cadarn ar y sefydliadau hyn. Fodd bynnag, ni all y Comisiynydd ond pennu safonau sy'n rhesymol ac yn gymesur ar gyfer pob sefydliad unigol. 

 

41. Bellach, bydd yn ofynnol i sefydliadau fynd ati mewn ffordd fwy rhagweithiol a strategol i brif ffrydio'r Gymraeg. Bydd y 'cynnig rhagweithiol' yn allweddol i hyn, sy'n rhoi cyfrifoldeb ar y sefydliad i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg, yn hytrach na disgwyl i'r unigolyn ofyn amdanynt. Cyflwynwyd yr egwyddor hon yn y sector iechyd drwy Mwy na geiriau.... ac mae'n rhoi sylfaen gadarn i wella'r gwasanaethau ar gyfer siaradwyr Cymraeg. 

 

42. Bydd gwell trefn orfodi yn cynnig dull mwy effeithiol o ymdrin ag achosion honedig o beidio â chydymffurfio â Safonau ond yn sicrhau hefyd y gellir datrys cwynion yn gynnar ac yn anffurfiol os yw hynny’n briodol. 

 

43. Fel rhan o broses yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, gofynnwyd i sefydliadau fynegi barn ar unrhyw fanteision ieithyddol, cymdeithasol neu amgylcheddol o gyflwyno Safonau. 

 

Gofal Cymdeithasol Cymru

 

44. Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 4) 2016 drwy ychwanegu Gofal Cymdeithasol Cymru at Atodlen 6 y Rheoliadau.

                                                                                                          

45. Ni wnaeth Gofal Cymdeithasol Cymru gyflwyno Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

 

Manteision economaidd

 

46. Un sylw a wnaed mewn perthynas â manteision economaidd oedd y byddai datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu yn ei gwneud yn bosibl lleihau'r gost o ddibynnu ar gyfieithu allanol. Dywedodd sefydliad arall y byddai mwy o gyfleoedd ar gael i fusnesau a BBaChau yng Nghymru mewn perthynas â cheisiadau i dendro. Ar ben hynny, fel cyflogwyr mawr, roedd rhai yn gweld datblygu gweithlu dwyieithog fel cyfle i alluogi pobl leol i aros yn eu cymunedau a gwneud cyfraniad economaidd.

 

Manteision amgylcheddol

 

47. Nododd sawl ymatebydd bod manteision - i gleifion a staff - o fod mewn amgylchedd amlwg ddwyieithog. Dywedodd sefydliad arall y byddai darparu gwybodaeth i gleifion yn y ddwy iaith yn gwella profiad y claf ac yn gwella llif a rheolaeth ardaloedd y cleifion.

 

Manteision cymdeithasol ac ieithyddol

 

48. Yn ôl y disgwyl, roedd y rhan fwyaf o'r sefydliadau yn dweud y gallai Safonau'r Gymraeg arwain at fanteision ieithyddol a chymdeithasol. Dywedodd un sefydliad y gallai'r ffaith bod cleifion yn medru cyfathrebu yn eu dewis iaith arwain at ganlyniadau cadarnhaol o ran eu hadferiad a'u lles. 

 

49. Roedd nifer yn teimlo y gallai'r Safonau helpu i godi hyder staff dwyieithog. Dywedodd un sefydliad yn benodol y byddai datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu yn gwella ansawdd y cyfathrebu rhwng y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a defnyddiwr y gwasanaethau, ac o bosib yn gwella canlyniadau iechyd y defnyddiwr a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Roedd sefydliad arall yn cyfeirio at siaradwyr Cymraeg ar ei staff fel adnodd gwerthfawr, heb eu defnyddio’n llawn, ac yn dweud y byddai codi eu hyder i ddefnyddio'r iaith yn ystod oriau gwaith yn fanteisiol i'r sefydliad.

 

50. Roedd sawl un arall yn dweud y byddai cyflwyno'r safonau yn arddangos arfer da, o ran bod modd i gleifion dderbyn gofal iechyd yn eu dewis iaith neu yn yr iaith angenrheidiol.

 

 

Casgliad

 

51. Mae'r ansicrwydd presennol ynghylch pa safonau y bydd angen i bob sefydliad gydymffurfio â hwy yn golygu nad yw'n bosibl llunio asesiad cadarn ar hyn o bryd o'r costau a'r manteision sy'n gysylltiedig â'r Rheoliadau.

 

52. Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn ymgynghori â'r sefydliadau perthnasol cyn cyhoeddi'r hysbysiadau cydymffurfio terfynol. Mae ffactorau megis pa mor rhesymol a chymesur yw safonau unigol yn debygol o gael eu hystyried yn y cam hwn, ynghyd â pha afonau y bydd disgwyl i’r sefydliad gydymffurfio â nhw ac ym mha amgylchiadau. Fel rhan o'r broses hon, gallai'r sefydliadau gyflwyno asesiad o'r costau a'r manteision cymharol sy'n gysylltiedig â'r safonau. Gallai'r Comisiynydd ystyried hyn wrth benderfynu a yw'r safonau'n rhesymol ac yn gymesur. Bydd yr asesiad hwn yn cael ei gwblhau cyn bod yr hysbysiadau cydymffurfio terfynol yn cael eu rhoi.

 

 

 

Asesiad o'r gystadleuaeth

 

53. Cynhaliwyd asesiad o'r gystadleuaeth - mae'r Rheoliadau'n annhebygol o gael effaith andwyol sylweddol ar gystadleuaeth.   

 

Adolygu ar ôl gweithredu

 

54. Mae'r Mesur yn darparu nifer o gyfleoedd i'r Comisiynydd ddwyn sylw Gweinidogion Cymru at addasrwydd y safonau a bennwyd yn y Rheoliadau. Er enghraifft:

 

·         Gall y Comisiynydd gyflwyno argymhellion neu roi cyngor i Weinidogion Cymru (adran 4 o'r Mesur) a allai argymell yn uniongyrchol diwygio'r Rheoliadau, os yw'n dymuno gwneud hynny. Hefyd gallai Gweinidogion Cymru benderfynu ar sail cyngor a roddir ganddi y byddai'n briodol adolygu'r Safonau. Rhaid iddynt roi sylw dyledus i unrhyw argymhellion neu gyngor ysgrifenedig y mae'r Comisiynydd yn eu rhoi wrth arfer y swyddogaeth y mae'r argymhelliad neu'r cyngor yn ymwneud â hi.    

·         Mae adran 18 y Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd baratoi adroddiad blynyddol. Rhaid i'r adroddiad hwnnw gynnwys adolygiad o faterion sy'n berthnasol i'r iaith Gymraeg (ymhlith materion eraill) a gallai hefyd gynnwys unrhyw faterion eraill y mae'r Comisiynydd o'r farn ei bod yn briodol eu cynnwys.

·         Yn ogystal, mae gan y Comisiynydd y pŵer i gynnal Ymchwiliad Safonau (adrannau 61 a 62 o'r Mesur) a all ystyried pa safonau a ddylai, neu a ddylai barhau i fod yn benodol gymwys i berson, p'un a yw'r safonau eisoes wedi'u pennu gan Weinidogion Cymru ai peidio. Ar ôl cynnal Ymchwiliad Safonau, rhaid i'r Comisiynydd lunio Adroddiad Safonau a darparu copi ohono i Weinidogion Cymru. Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus i adroddiad o’r fath yn unol ag adran 66 o’r Mesur.

 

55. Yn amodol ar eu Hysbysiadau Cydymffurfio, bydd sefydliadau'n cyhoeddi Adroddiadau Blynyddol bob blwyddyn sy'n amlinellu sut y maent wedi cydymffurfio â'r safonau a osodwyd arnynt (gweler Safon 120). Gallai'r Adroddiadau Blynyddol hyn hefyd godi materion yn ymwneud ag addasrwydd y safonau a bennwyd. 

 

 

 

 



[1]Cafodd Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 3) 2016 eu gwrthod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

[2]  Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2) 2016; Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 4) 2016; Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 5) 2016; Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 6) 2017 

[3]Roedd costau recriwtio cyfieithwyr ychwanegol wedi'u cynnwys gan nifer o'r ymatebwyr yn y categori cyfieithu yn hytrach na'r categori staffio.